Corlannau Amlgellog
Mae'r rhan fwyaf o’r 3500 o gorlannau yng ngogledd Cymru yn cynnwys un neu ddwy o gelloedd yn unig ac fe’u codwyd fel llochesi i’r defaid, neu fel rhywle i roi anifeiliaid a oedd wedi brifo. Mae mwy o fanylion am y rhain ac adeileddau eraill yma. Fodd bynnag, mae pwrpas gwahanol i'r corlannau mwyaf. Gelwir y corlannau sydd â 4 neu fwy o gelloedd yn gorlannau amlgellog ac maent yn cynrychioli oddeutu 3.5% o'r cyfanswm (tua 100).
Mae corlannau amlgellog yn caniatáu i ffermwyr ailgynnull eu defaid eu hunain pan fo preiddiau o wahanol ffermydd wedi cymysgu ar dir pori comin.
Mae hwn yn llun o gorlan fawr ar Y Gyrn; yr enw lleol arni yw Buarthau'r Gyrn. Cesglir defaid o'r gwahanol ffermydd oddi ar y mynyddoedd ar ddiwrnodau penodol o'r flwyddyn - megis adeg cneifio (mis Gorffennaf) – a chaiff y praidd cyfan (a all fod ymhell dros 1,000 o ddefaid) ei yrru i'r gorlan gasglu ac oddi yno i mewn i'r gorlan ddidoli yn y canol. Mae gan bob fferm sy'n defnyddio'r gorlan ei chell ei hun, gyda maint y gell yn adlewyrchu main y praidd sy'n perthyn i'r fferm honno. Unwaith y bydd fferm wedi ailgynnull ei defaid ei hun a'u rhoi yn eu cell, gellir eu trin yn y fan a'r lle neu fynd â nhw i'r fferm i wneud rhagor o waith. Mae'r llun yn dangos enwau'r ffermydd lleol a oedd yn defnyddio'r gorlan yn y 1970au. Defnyddir y gell 'defaid diarth' i ddal defaid crwydr o ardaloedd cyfagos cyn i'w perchnogion eu hawlio.
Tynnwyd y llun hwn o helfa ddefaid ym mis Medi. Mae'r ffermwyr i gyd yn cydweithredu yn yr helfeydd, sydd fel arfer yn digwydd deirgwaith y flwyddyn gan gychwyn tua dechrau mis Gorffennaf pan fydd y defaid yn cael eu hel at y corlannau yn barod i'w cneifio. Yn ddiweddarach, tua dechrau mis Medi, bydd yr ŵyn yn cael eu gwahanu oddi wrth y mamogiaid a'u hanfon i'r farchnad, ac yna, ym mis Hydref, bydd y defaid i gyd yn cael eu hel i lawr o'r mynydd i bori ar dir isel dros y gaeaf ac i baratoi ar gyfer wyna. Dychwelir y defaid i bori ar y mynyddoedd ddiwedd y Gwanwyn.
Mae'r defaid yn symud o'r gorlan ddidoli ganolog trwy dyllau neu gwteri defaid yn y waliau. Bydd giatiau pren neu fetel yn cael eu hagor neu eu cau i symud y defaid i wahanol rannau o'r gorlan. Adnabyddir y defaid gan y ffermwyr wrth eu nodau clust neu glustnodau. Mae gan bob fferm ei phatrwm ei hun, sy'n cael ei dorri i mewn i glust yr oen pan gaiff ei eni.
Mae giatiau metel yn gorchuddio'r tyllau defaid ar gorlan Y Gyrn oherwydd bod yr hen rai pren wedi cael eu dinistrio gan ferlod y Carneddau .
Mae'r llun hwn yn dangos corlan arall gyda defaid yn cael eu symud o'r corlannau casglu ar y dde trwy sianel gul i mewn i'r tair cell sydd wedi'u pennu ar gyfer y fferm. Caiff y defaid nad oes eu heisiau ar gyfer yr helfa arbennig hon eu gollwng yn ôl i'r caeau trwy'r gell fechan ar ochr chwith y gorlan.
Mae fideo byr o'r defaid yn cael eu didoli ar gael yma.