Enwau'r corlannau
Cyn trafod ychydig o hanes y corlannau, mae'n werth edrych ar eu henwau. Yn gyffredinol, corlan yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio lle caeedig ar gyfer cadw defaid, ond yn ardal gogledd y Carneddau mae'r term buarth yn fwy cyffredin. Hwn oedd y gair cyffredin am gorlan gasglu yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae'r rhan fwyaf o'r corlannau yn cael eu hadnabod yn lleol fel "Buarth hwn a hwn neu le a lle", er enghraifft Buarth Mawr y Braich yng Nghwm Caseg, sydd ychydig islaw Braich y Llyngwn ar Yr Elen. Gelwir eraill yn Fuarth Newydd neu Gorlan Hen; mae tarddiad yr enwau hyn yn aml yn anhysbys. Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn gwybod enwau’r corlannau yn eu hardal benodol, ond, wrth gwrs, unwaith y bydd y corlannau yn peidio â chael eu defnyddio bydd eu henwau’n mynd yn angof hefyd.
Hafod a Hendre - ffermio cyn y ddeunawfed ganrif
Am y rhan fwyaf o'r cyfnod cyn y ddeunawfed ganrif, roedd ffermwyr yn dilyn y drefn hafod a hendre. Defnyddiwyd cynnyrch y fferm yn bennaf i gynnal y teulu ac felly roedd yn cynnwys cnydau i fwydo'r teulu a'r anifeiliaid, yn ogystal ag amrywiaeth o dda byw. Yn yr haf symudai'r ffermwr a'r anifeiliaid i dir pori'r ucheldir a byddent yn aros yn yr hafoty. Yn y gaeaf byddent yn symud yn ôl i lawr i'r iseldiroedd ac i brif annedd y teulu, sef yr hendre. Roedd yn system o drawstrefa yn debyg iawn i'r hyn a geir yn Ewrop (transhumance). Tŷ bychan a chwt gwartheg oedd yr hafoty fel arfer, er y gallai fod ar ffurf un tŷ hir lle byddai’r ffarmwr a’r anifeiliaid yn aros. Roedd y system yn caniatáu amser i gnydau’r iseldiroedd dyfu heb rwystr ac i’r da byw fanteisio ar borfa'r haf yn yr ucheldiroedd. Yn ddiamau, byddai rhai corlannau wedi bodoli a chael eu codi yn y cyfnod hwn, ond mae’n bwysig cydnabod mai gwartheg ac nid defaid oedd mwyafrif yr anifeiliaid.
Newidiadau mewn amaethyddiaeth o'r ddeunawfed ganrif - codi corlannau
Bu dirywiad yn y drefn hafod a hendre o'r ddeunawfed ganrif ymlaen am ddau reswm. Yn gyntaf, cafwyd twf sylweddol ym mhoblogaeth gwledydd Prydain, yn enwedig yn y dinasoedd. Yn y cyfnod rhwng 1750 a 1800 bu cynnydd o 50% yn y boblogaeth a dangosodd y cyfrifiad swyddogol cyntaf ym 1801 bod y boblogaeth wedi codi i 9 miliwn o bobl. Yn sgil hyn cafwyd cynnydd aruthrol yn y galw am gynhyrchu bwyd ac o ganlyniad, newidiodd ffermio o ffermio ymgynhaliol i amaethyddiaeth gyfalafol, sef cynhyrchu bwyd i eraill. Yn ail, ac yn fwy pwysig, roedd hi'n gyfnod pan gafodd darnau helaeth o dir comin eu cipio a'u hamgáu gan y stadau mawr megis Stad y Penrhyn.. Erbyn canol y ddeunawfed ganrif roedd y rhan fwyaf o ffermydd gogledd Cymru yn perthyn i'r stadau. Daeth yr hafotai yn ffermydd mynydd parhaol ac anfonwyd eu hanifeiliaid i'r ucheldir comin i bori. Roedd y stadau yn awyddus i wella arferion amaethyddol i fodloni'r galw cynyddol am fwyd ac roeddent yn cael eu hysgogi'n llawer mwy gan elw. Gyda'r ffermwyr-denantiaid yn aros mewn un annedd trwy gydol y flwyddyn, roedd defaid yn disodli gwartheg fel y prif fath o dda byw. Roedd galw mawr am wlân yn y cyfnod hwn ac roedd ffermio defaid yn llawer mwy proffidiol i’r stadau. Gallai'r defaid gael eu hanfon i'r tir comin yn yr haf ac roedd y gofynion hwsmonaeth yn llai nag ar gyfer gwartheg. Fodd bynnag, ar rai adegau o’r flwyddyn, megis amser cneifio, roedd angen hel y defaid ac mae’n debyg mai dyma pryd y codwyd y rhan fwyaf o’r corlannau amlgellog, h.y. tua 250 - 300 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y tir pori comin helaeth ar ucheldir y Carneddau, yn arbennig, yn golygu, unwaith y sefydlwyd y drefn hon, mai dyma’r ardal lle’r oedd angen codi'r rhan fwyaf o’r corlannau amlgellog.
Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at gorlan mewn llyfr yn dyddio o 1779.
Gwybodaeth bellach am gau'r tiroedd comin
Er mwyn deall hanes ffermio defaid ar y Carneddau, mae angen deall hanes pori tiroedd comin ac effaith y broses o gau tiroedd yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heddiw, mae tua 8.5% o arwynebedd Cymru yn dir comin cofrestredig, sef cyfanswm o tua 175,000 hectar, ac mae’r rhan fwyaf o'r tiroedd hyn i'w cael yng Ngwynedd a Phowys.1 Yng Nghymru, lleolir y rhan fwyaf o'r tiroedd comin (tua 75%) yn yr ucheldiroed,2 a mynyddoedd y Carneddau yw un o'r ardaloedd mwyaf o dir comin yng ngogledd Cymru. Mae dros 20 milltir sgwâr o dir comin rhwng Bethesda, Llanfairfechan, Capel Curig a Chonwy.3 Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd tir comin yn llawer mwy sylweddol, ac yn cynrychioli tua thraean o arwynebedd tir Cymru, sef 687,000 hectar neu 1.6m erw.4
Er gwaethaf yr enw, nid yw tir comin, ac nid oedd erioed, yn eiddo i'r cyhoedd. Mae'n dir preifat, ond yn dir y mae gan bobl leol hawl gyfreithiol i'w ddefnyddio, i bori anifeiliaid, tyfu cnydau ac ati. Yn y gorffennol roedd y boblogaeth wledig yn bennaf yn cynnwys gweithwyr amaethyddol a oedd yn crafu bywoliaeth drwy gadw ychydig o anifeiliaid a thyfu cnydau ar stribedi o dir ar y tiroedd comin. Yn aml roedd yn dir o ansawdd gwael ac yn aml yn cael ei orbori.
O’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, wrth i stadau yng Nghymru dyfu’n fwy, cynyddodd y broses o amgáu'r rhannau gorau o’r tir comin. I bob pwrpas, trwy deg neu drwy drais, golygai hyn fod rhannau o'r tir comin a ddefnyddid gan werinwyr lleol wedi’u cau i ffwrdd, a bod yr hawliau cyfreithiol i bori ac ati yn cael eu dileu, yn aml heb unrhyw iawndal. Er enghraifft, rhwng 1360 a 1620, caewyd 2,000 erw o dir comin lleol gan Stad fawr Cochwillan ger Llanllechid (a brynwyd ymhen amser gan Stad y Penrhyn).5
Yn yr 16eg ganrif, cyflwynwyd cyfraith Lloegr i Gymru ac o hynny ymlaen defnyddiwyd Deddfau Seneddol yn fwyfwy aml i orfodi'r broses o amgáu tir comin. Erbyn 1750, y llwybr hwn i gaffael tir oedd y norm i'r stadau mawr, a oedd yn berchen ar y mwyafrif helaeth o'r tir bryd hynny. Yng ngogledd Cymru, roedd nifer y Deddfau Cau Tir fel a ganlyn:6
1700 - 1760 3
1761 - 1801 20
1802 - 1811 32
1812 - 1844 24
1845 - 1885 22
O hyn gellir gweld bod y cyfnod helaethaf o gipio tir trwy ddulliau cyfreithlon wedi digwydd tuag adeg Rhyfeloedd Napoleon (1799 - 1815), pan gyflwynwyd dros 30 o Ddeddfau Seneddol mewn cwta naw mlynedd. Yn rhan olaf y 1800au daeth y Deddfau Cau Tir yn llai niferus wrth i gyfreithiau newydd gydnabod gwerth amwynderol y tiroedd comin. Fodd bynnag, yn ôl un amcangyfrif, roedd y difrod wedi’i wneud gyda dros hanner tiroedd Cymru a oedd yn gomin yn 1800 wedi’u hamgáu o fewn y ganrif.4
Y ddadl a gyflwynwyd gan y stadau mawr wrth alw am i’r Deddfau gael eu pasio oedd bod defnyddio’r tiroedd comin ar gyfer ffermio yn aneffeithlon, bod da byw yn cael eu hesgeuluso ac yn aml yn cael rhy ychydig o fwyd, bod y tir yn llawn prysgwydd ac nad oedd y system gaeau a oedd yn cael ei defnyddio yn caniatáu unrhyw welliannau. Prin oedd unrhyw iawndal i'r bobl a oedd yn defnyddio'r tir comin a amgaewyd, ac ofer bu unrhyw wrthwynebiad, er bod terfysgoedd yn aml yn dilyn. Mae hen bennill a ysgrifennwyd yn Saesneg yn yr un cyfnod yn taro'r hoelen ar ei phen:7
Maen nhw'n crogi'r dyn ac yn chwipio'r wraig
Sy'n dwyn yr ŵydd oddi ar y comin.
Ond cael mynd yn rhydd mae'r troseddwr mawr
Sy'n dwyn y comin oddi ar yr ŵydd. (Cyfieithiad)
Cynorthwywyd y stadau yn eu hymdrechion gan y cynnydd sylweddol yn y galw am fwyd yn sgil twf y boblogaeth drefol ac oherwydd bod galw mawr am wlân a chig dafad yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Gallent ddadlau eu bod yn helpu ymdrech y rhyfel trwy wella dulliau ffermio, codi waliau i warchod cnydau ac anfon defaid i’r ucheldir i bori. I bob pwrpas, roedd y newidiadau a ddigwyddodd yn nodi diwedd ffermio ymgynhaliol a dechrau amaethyddiaeth fasnachol.
Yn ystod y 150 mlynedd hyd at 1850, bu cynnydd amlwg iawn mewn ffermio defaid ar y Carneddau, ynghyd â chodi'r holl adeileddau a oedd yn gysylltiedig â hynny - waliau i gadw defaid draw o’r cnydau, corlannau ar gyferdidoli, golchi a chneifio preiddiau, llochesi bugeiliaid ac yn y blaen.
Mae'r llun yn dangos y llythrennau a'r rhifau EP 1683 wedi'u naddu ar bostyn giât ar y ffin rhwng tir comin a thir fferm ar ochr ddwyreiniol y Carneddau ger Talyfan. Credir mai EP oedd y swyddog a oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o amgáu'r tir ac mae'r dyddiad 1683 yn awgrymu bod y gwaith o adeiladu'r waliau wedi hen ddechrau ar y Carneddau dros 100 mlynedd cyn Rhyfeloedd Napoleon. Mae hyn hefyd yn awgrymu bod rhai o gorlannau’r ardal dros 300 oed, gan y byddai eu hangen ar yr adeg pan oedd y tir yn cael ei amgáu a defaid yn cael eu symud i bori ar dir comin.
Adnoddau cyfeirio
Llywodraeth Cymru (2021). "Tir Comin". Cyfraith Cymru.
https://law.gov.wales/cy/yr-amgylchedd/cefn-gwlad-mynediad/tir-comin
JBA Consulting and Enventure Research. (2020). The enablers and barriers to the delivery of natural flood management projects, Appendix D: Landowner deep dive. Department for Environment Food and Rural Affairs.
Partneriaeth Tirwedd y Carneddau (2023). "Agriculture".
https://testing.carneddau.creo.dev/agricultural-traditions/
Aitchison, J. W., and E. J. Hughes (1988). "The Common Lands of Wales". Transactions of the Institute of British Geographers, Vol. 13:1, pp. 96–108.
Harries, W. B. (2010). Llanllechid: Hanes, Traddodiad a Rheolaeth Comin. Traethawd MA. Prifysgol Bangor.
Elias, Twm, Dafydd Roberts a John H. Davies (2016). "Er clod i'n cloddiau cerrig". Natur Cymru, Cyf. 58.
Boyle, James (2003). "The Second Enclosure Movement and the Construction of the Public Domain". Law and Contemporary Problems, Vol. 66, pp. 33-74.
https://economicsociology.org/2018/02/18/the-goose-and-the-common-the-privatization-of-public-space/
Erthyglau cysylltiedig
https://ffermioynllanllechid.com/ffermio-ym-mhlwyf-llanllechid1760-1860-rhan-2-cefndir-penodol/
Twf y diwydiant llechi
Ail reswm dros nifer y corlannau yn y Carneddau yw twf y diwydiant llechi yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y chwarelwyr yn ychwanegu at eu hincwm trwy ddod yn dyddynwyr a chadw preiddiau bychain o ddefaid. Mae'r llun hwn yn dangos corlan sydd ar gyrion Chwarel y Penrhyn ger Bethesda. Fe'i defnyddiwyd gan nifer fawr o dyddynwyr, sy'n egluro'r nifer fawr o gelloedd. Mae pob cell tua'r un maint, sy'n dangos bod y tyddynwyr i gyd yn cadw preiddiau o faint tebyg.
Mae'r llun yn dangos bod y gorlan wedi'i hadeiladu ar safle hen anheddiad - rhywbeth sy'n cael ei drafod yn fwy manwl isod.
Dyma'r dolen i weld versiwn 3d o'r corlan - diolch i Ymddiriodolaeth Archeoleg Cymru
Mapio'r corlannau
Cyhoeddwyd mapiau cyntaf yr Arolwg Ordnans rhwng canol a diwedd y 1800au a dangosir y corlannau amlgellog yn eithaf clir ar fapiau'r gyfres Sirol sy'n dyddio o 1888. Mae'r llun hwn yn dangos Buarth Carreg y Garth fel y mae heddiw a sut yr ymddangosai ar y map cynharach. Byddai’r system llifddor a’r llyn wedi cael ei defnyddio ar gyfer golchi’r defaid, a drafodir yn fanylach yma.
Map a gynhyrchwyd gan Stad y Penrhyn ym 1786 yw'r un cynharaf sy'n dangos y corlannau ar y Carneddau. Mae bodolaeth y map yn dangos bod y corlannau o leiaf 238 mlwydd oed yn 2024. Mae’r lluniau isod yn dangos corlannau unigol fel y'u gwelir ar y map ynghyd ag enw pob un a llun diweddar ohoni.
Gyda chaniatâd caredig Archifau Prifysgol Bangor.
Cyfeirnod y ddogfen: PENRA/2210
Corlannau defaid a hen aneddiadau
Un rheswm pam ei bod hi'n anodd dyddio'n union y gwaith o godi'r corlannau yw oherwydd eu bod yn aml iawn wedi'u hadeiladu ar safle hen anheddiad, felly roedd defnydd o'r safle yn newid dros amser. Gall hyn fod oherwydd ei fod yn safle lle'r oedd digon o gerrig, neu efallai oherwydd ei fod yn lle addas ar y dirwedd i adeiladu'r gorlan oherwydd bod y tir yn draenio'n well ac yn cynnig mwy o gysgod ac ati. Mae'r llun hwn yn dangos lleoliad Buarth Fro- wen yng nghanol anheddiad o Oes yr Haearn.
Map trwy garedigrwydd yr Arolwg Ordnans.
Ar safle Buarth Fro-wen, yng Nghwm Caseg, gellir gweld olion caeau'r anheddiad blaenorol a bron yn sicr defnyddiwyd cerrig o'r anheddiad i godi'r gorlan. Mae'r gorlan hon yn cael ei defnyddio hyd heddiw.
Y Porthmyn
Cyn dyfodiad y rheilffyrdd yn y 1800au y brif ffordd i ffermwyr anfon eu gwartheg a'u defaid i'r farchnad oedd trwy ddefnyddio porthmyn. Grŵp o ddynion oedd y rhain a gasglai'r anifeiliaid gan y ffermwr ac yna mynd â nhw, dros gyfnod o dair neu bedair wythnos, i’r prif farchnadoedd dros y ffin yn Lloegr. Roedd rhai anifeiliaid yn cael eu gyrru ar hyd llwybrau'r porthmyn cyn belled â Chanolbarth Lloegr, Llundain a Chaint, oherwydd dyma'r ardaloedd lle'r oedd y boblogaeth yn cynyddu a'r galw am fwyd ar ei uchaf. Mae'r llun yn dangos eglwys Llangelynnin ger Conwy a llwybr y porthmyn, yn y gornel uchaf ar y chwith, yn arwain i lawr i'r dyffryn.
Yn agos iawn at yr eglwys, a llwybr y porthmyn, mae Buarth Llangelynnin. Byddai defaid ac anifeiliaid eraill yn cael eu cadw'n ddiogel yn y gorlan dros nos tra byddai’r porthmyn yn aros mewn tafarn gerllaw'r eglwys. Mae'r gorlan hon yn cael ei defnyddio hyd heddiw.
Gostyngiad yn nifer y defaid
Dros yr hanner can mlynedd diwethaf mae nifer y defaid sy'n cael eu ffermio ar y Carneddau ger Llanllechid wedi gostwng, o 20,000 i tua 10,000 heddiw. Yn y 1970au, ar ôl i’r Deyrnas Gyfun (DG) ymuno â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (yr UE presennol) bu ymdrech ar draws Ewrop i wneud amaethyddiaeth yn fwy effeithlon. O ganlyniad, cafodd ffermydd eu cyfuno a chyda chyrhaeddiad cneifio mecanyddol a beiciau cwad daeth yn haws trin y defaid ar un fferm na defnyddio’r corlannau. Aeth nifer o gorlannau â'u pennau iddynt yn y cyfnod hwn. Mae cymorthdaliadau amaethyddol newidiol, mwy o gystadleuaeth fyd-eang ac yn arbennig effaith Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001 i gyd wedi cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y defaid. Yn yr achos o'r Clwy yn 2001 cafodd dros 5 miliwn o ddefaid ar draws y DG eu lladd, mwy na 10% o'r stoc.