Llochesi
Mae llawer o'r corlannau sydd wedi'u cofnodi yng ngogledd Cymru yn adeileddau syml sy'n cynnwys un neu ddwy o gelloedd. Dros amser, byddant wedi cyflawni amrywiaeth o ddibenion, megis cysgodi anifeiliaid wedi'u hanafu ar dir uchel neu ganiatáu i'r ffermwr neu'r bugail ddidoli a thrin nifer fach o anifeiliaid ar unrhyw un adeg. Mae rhai yn ffinio â'r waliau sy'n amgylchynu caeau. Byddai llawer o'r corlannau wedi cael eu codi yn y 18fed neu'r 19eg ganrif, ond mae rhai yn dyddio'n ôl i gyfnod cynharach. Byddai cryn dipyn o’r corlannau ag un gell wedi cael eu defnyddio fel corlannau cynefin, a ddisgrifir isod. Mae'n rhaid i waliau corlannau fesur o leiaf 5 troedfedd 9 modfedd o uchder er mwyn rhwystro defaid rhag neidio drostynt.
Corlannau Amlgellog (neu Cymunol)
Mae corlannau amlgellog yn cynnwys 4 cell neu fwy. Disgrifir eu defnydd yma.
Mae un o'r corlannau mwyaf, Buarth Mawr y Braich yng Nghwm Caseg, i'w gweld yma. Amcangyfrifir bod ei waliau'n mesur hanner kilometr o hyd. Mae’r rhan fwyaf o’r corlannau amlgellog mawr wedi’u lleoli ar dir pori comin gogledd y Carneddau, ac maent yn galluogi’r ffermydd amrywiol sy’n defnyddio’r tir pori i ailgynnull eu defaid eu hunain. Mae'n debyg eu bod yn dyddio o'r 18fed neu'r 19eg ganrif. Gallai maint a siâp pob corlan newid dros amser wrth i’r ffermydd a'i defnyddiai newid, er enghraifft, byddai angen celloedd mwy ar breiddiau mwy, ac yn y blaen.
Dim ond mewn pedair rhan o'r byd y mae corlannau amlgellog ar ffurf blodyn, fel hon, wedi'u cofnodi. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael yma.
Yn rhannau mwy deheuol y Carneddau, yn enwedig o amgylch Nant y Benglog a Chapel Curig, mae'r corlannau amlgellog yn llai ac yn gysylltiedig â ffermydd unigol, fel hon ger Llyn Ogwen.
Corlannau Cynefino
Mae cynefin yn cyfeirio at y rhan honno o fynydd-dir y mae'r defaid yn glynu wrthi, ac ni fyddant fel arfer yn crwydro y tu hwnt i'r ardal honno. Nid yw ei ffin o reidrwydd yn wal, gall fod yn grib neu'n afon. Mae mamogiaid y Carneddau i gyd yn adnabod eu cynefin eu hunain ac mae'r wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i'w hŵyn. Yn y gorffennol, pan gyflwynwyd defaid newydd i braidd, roedd yn rhaid iddynt ddysgu ble roedd y cynefin, proses a allai gymryd hyd at chwe wythnos. Mewn rhai achosion, gosodwyd rhaff ar bob dafad newydd fel nad oedd yn gallu crwydro'n rhy bell. Dros nos, byddai'r defaid newydd yn cael eu rhoi yn y gorlan gynefin ac yna’n cael eu rhyddhau drannoeth pryd y byddai'r ffermwr neu’r bugail yn eu goruchwylio. Mae’r llun yn dangos corlan gynefin fach ger Tryfan a Llyn Ogwen.
Nid yw corlannau cynefino yn cael eu defnyddio bellach oherwydd bod nifer y defaid ar y Carneddau yn gostwng yn hytrach na chynyddu, ac felly nid oes angen prynu defaid newydd i ehangu’r praidd.
Roedd corlannau cynefin hefyd yn cael eu defnyddio gan y chwarelwyr a oedd yn aml yn dyddynwyr. Yn ystod yr wythnos wrth gerdded i'r gwaith byddent yn gadael eu defaid ar y tiroedd comin ger Talyfan ac yna, ar y ffordd yn ôl o'r gwaith, byddent yn eu cau i mewn yn y corlannau cynefin dros nos.
Corlannau Golchi
Adeiladwyd llawer o'r corlannau wrth ymyl afon. Roedd hyn er mwyn medru golchi'r defaid, rhywbeth yr oedd yn rhaid ei wneud ryw wythnos cyn cneifio yn yr haf. Pwrpas golchi'r defaid oedd cael gwared ar barasitiaid fel llau a glanhau'r lanolin o'r cnu. Yn nyddiau cynnar y diwydiant nyddu gwlân, roedd cnuoedd budr yn effeithio ar y cribau yn y melinau, felly talwyd premiwm o hyd at 25% i ffermwyr am gnu glân. Ynghlwm wrth y corlannau amlgellog roedd corlannau yn arwain i lawr at yr afon, fel y gorlan hon yng Nghwm Llafar.
Mewn rhai achosion codwyd corlannu un gell ger afonydd yn benodol i'w defnyddio fel corlannau golchi. Golchfa yw'r enw cyffredin am y math hwn o gorlan. Mae hon i'w gweld ger Mynydd Llandygai. Byddai llifddorau'n cael eu gosod yn yr afon ac wrth iddynt gael eu cau byddai dŵr yr afon yn cronni ac yn ffurfio llyn wrth ymyl y gorlan. Gyrrid y defaid i mewn i'r dŵr i'w golchi trwy eu rholio drosodd ar eu cefnau.
Daeth yr arfer o olchi defaid i ben yn y 1970au a dechrau'r 1980au. Nid oedd angen golchi mwyach gan fod cneifio mecanyddol yn cymryd lle cneifio â gweill ac roedd gwlân yn wynebu cystadleuaeth gynyddol gan ffibrau artiffisial a oedd yn torri’r pris a gâi'r ffermwyr am eu gwlân.Yn ogystal, cyflwynodd Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain un pris penodol ar gyfer pob cnu, gan roi diwedd ar y premiwm a dalwyd am gnuoedd wedi’u golchi. Yn y Carneddau, unwaith roedd y drefn o olchi'r defaid wedi dod i ben bu raid symud dyddiad y cneifio blynyddol wythnos yn ddiweddarach er mwyn hwyluso'r cneifio. Heddiw, gall cnu gael ei werthu am lai na 50c, tra ar ddechrau'r ugeinfed ganrif byddai gwerthu gwlân yn aml yn codi digon i ffermwyr dalu'r rhent ar eu fferm am flwyddyn.
Corlan o'r 1980au
Adeiladwyd corlan Buarth Fedw gan Dafydd Pritchard o fferm Glanmor Isaf yng nghanol y 1980au, ac mae'n dal i gael ei defnyddio heddiw. Codwyd y gorlan yn ystod gaeaf pan oedd y ddaear yn feddal ac felly yn ei gwneud yn haws gosod y pileri llechi yn eu lle.
Mae'r defaid yn cael eu gyrru i'r gorlan gasglu (1) ac yna'n cael eu hanfon i'r corlannau dal (2, 3 a 4).
Caiff y defaid wedyn eu didoli a'u rhyddhau fesul ychydig yn ôl i gell 3 a gosodir giât (5) i gyfeirio'r defaid drwy'r sianel uchaf (6) neu'r sianel isaf (7).
Unwaith y bydd y defaid yn y sianelau gellir eu marcio, eu pwyso, eu chwistrellu yn erbyn afiechyd, neu eu didoli trwy anfon rhai yn ôl i gell 2 a'r gweddill yn ôl i gell 1.
Bydd defaid yn cael eu cneifio hefyd yn y gorlan hon.
Trapiau Llwynogod
Tynnwyd y llun hwn gan Arwel Roberts ac mae wedi'i gynnwys trwy garedigrwydd Jane Kenney, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.
Roedd llwynogod - ac maent yn parhau i fod - yn broblem fawr i ffermwyr defaid. Roedd trapiau llwynogod ynghlwm wrth lawer o gorlannau, neu fe'u codwyd fel adeileddau ar wahân. I ddenu llwynog, byddai'r ffermwr yn gosod dafad farw yn y trap, a oedd yn debyg i iglw heb do llawn. Unwaith y byddai'r llwynog wedi neidio i mewn nid oedd yn gallu dianc oherwydd bod y waliau'n taflu dros blwm neu dros droed. Gallai'r ffermwr wedyn ddifa'r llwynog wrth ei bwysau. Erbyn heddiw, mae trapiau llwynogod yn anodd eu hadnabod gan fod y cerrig a daflai allan ar ben y wal yn tueddu i ddisgyn i mewn, gan adael y trap yn edrych fel lloches defaid arferol.
Cytiau Myn
Nodwyd y rhain gyntaf yn yr 1980au ac mae o leiaf dau i'w gweld hyd heddiw. Pan fyddai geifr gwyllt yn geni eu mynnod yn gynnar yn y gwanwyn, byddai'r ffermwr yn dal un neu fwy o'r mynnod ac yn eu cau yng nghefn y cwt. Byddai'r fam yn dod i mewn i'r cwt, yn cael ei denu gan frefu'r myn neu fynnod, ac yn aros yno. Yna byddai'r ffermwr yn dod i odro'r afr, gadael hanner y llefrith i'r mynnod a chymryd hanner ar gyfer ei deulu ei hun.
Llochesi Bugeiliaid
Mae nifer o'r rhain wedi goroesi ac mae rhai wedi'u troi'n gytiau a ddefnyddir fel llochesi i gerddwyr. Mae'r un yma, ar gopa Llwytmor Bach, yn fach a byddai wedi cael ei defnyddio fel lloches ac nid llety dros nos. O amgylch y lloches mae nifer o gorlannau bychain.
Roedd ffermwyr yn aml yn talu ychydig sylltau'r wythnos i fugeiliaid i ofalu am eu defaid yn y mynyddoedd. Dau o'r llochesi enwocaf yw Cwt Dafydd Ross, ar Foel Grach, a Chwt Jacob ym Mhant Mawr ger Bera Bach uwchben Abergwyngregyn.