Hanesion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys yr holl hanesion a straeon yr ydw i wedi'u casglu ar hyd y daith wrth siarad â ffermwyr a phobl leol am y corlannau.


Mae croeso i chi anfon eich hanesion ata i drwy e-bost: nigel.beidas@gmail.com


Hel defaid yn Abergwyngregyn

Heddiw, pan fydd defaid yn cael eu hel yn Abergwyngregyn, cânt i gyd eu gyrru i lawr i fferm ger yr arfordir i’w didoli. Ond nid felly y bu bob amser, ac fel yn yr ardal o gwmpas Llanllechid, byddai'r corlannau yn uwch i fyny'r dyffryn yn cael eu defnyddio mewn trefn benodol wrth gasglu'r defaid - Buarth Newydd ar ddydd Mawrth, Buarth Mawr yng Nghwm Anafon ar ddydd Sadwrn a Chorlan Hen (Cwm Anafon) a Chorlan Cwm yr Afon Goch (yn y llun) ar ddydd Llun. Nid oes yr un o'r corlannau hyn yn cael eu defnyddio heddiw.


Merlod y Carneddau

 Nid ar gyfer didoli defaid yn unig y defnyddiwyd y corlannau. Dywedodd ffarmwr o ardal Llanllechid wrthyf ei fod yn cofio ei dad yn sôn am yr adeg pan fyddai corlan Buarth Fro-wen, yng Nghwm Caseg, yn llawn o ferlod. Roedd ffermydd yr ardal yn magu hyd at gant o ferlod yr un ac yn eu pori ar y Carneddau cyn eu casglu yn y gorlan ac yna eu gyrru i lawr i ffair y Borth (Porthaethwy), tua 10 milltir i ffwrdd, lle byddent yn cael eu gwerthu fel merlod pwll glo.

Hel defaid

Yn ôl ffarmwr o Rachub mae’n cymryd mwy o amser i hel y defaid ar ddiwrnod heulog, poeth oherwydd nad yw'r defaid yn hoffi gadael y mynydd, ac mae’r cŵn yn blino hefyd.

Pori llus a grug

Mae'r ardal o gwmpas y gorlan hon, ar Foel Llwyd, wedi'i gorchuddio â grug a llus. Dywedodd Dewi Jones, Rowen, wrthyf y byddai ei dad a’i daid yn dweud ei bod yn bwysig anfon y defaid i fyny i bori'r llus a’r grug ar ôl cneifio gan y credir eu bod yn llesol i iechyd defaid.

Atgofion am hel a chneifio yn Nant y Benglog yn y 50au - Arfon Jones, Caersws

 (Fferm a Thyddyn, 71, Mai 2023)

Yn y pumdegau roedd dydd Sul yn cael ei barchu yn ddiwrnod arbennig a doedd dim  gwaith yn cael ei wneud tan ar ôl hanner nos sef dechrau fore Llun.

Gadewais yr ysgol ar ddydd Gwener ym mis Gorffennaf 1952 yn 16 oed, a thrannnoeth dyma godi fy mhac o Betws yn Rhos ger Abergele a mynd i Nant Ffrancon lle'r oedd fy modryb yn ffermio Tŷ Gwyn.  Bu farw fy ewyrth yn Gwanwyn, ond roedd yno un gwas ar y pryd. Er fy mod wedi fy magu yn y wlad, ac wedi bod yn Tŷ Gwyn amryw o weithiau ar wyliau, doedd gen i ddim profiad o drin ci defaid na hel mynydd, ond roedd y cymdogion yn eithriadol o garedig yn fy rhoi ar ben ffordd. Yr arferiad yr adeg honno oedd i'r cymdogion ddod at ei gilydd i hel y diadelloedd o'r mynydd, oedd i gyd yn fynydd agored, a phob fferm gyda'i 'chynefin'.    

Dw i'n cofio un flwyddyn yn arbennig; roedd y tywydd yn eithriadol o boeth ac felly roedd yn rhaid cychwyn i gasglu'r defaid o'r mynydd cyn i'r haul godi i'w cael i lawr cyn gwres y dydd. Roedd gan bob fferm ei diwrnod hel defaid, a'r diwrnod arbennig yma, ar ddydd Llun, diwrnod Glanllugwy oedd hi. Credid mai Glanllugwy oedd yr aelwyd a thân ynddi, uchaf yng Nghymru. Roedd gofyn bod yno erbyn un o'r gloch y bore i allu osgoi gwres llethol y dydd. Roedd gen i tua hanner awr o waith trafeilio, felly rhaid oedd cychwyn yn handi (wedi hanner nos) ar ôl cael paned fy hun ac i'r cŵn gael crystyn.  

Cyrraedd Glanllugwy, ac erbyn i bawb gyrraedd a rhoi'r byd yn ei le a chadarhau pwy oedd i hel lle, dyma gychwyn tua dau o'r gloch y bore. Fel arfer, roedd gan bob heliwr ddau gi, (ond dw i'n cofio un adeg 12 o heliwrs a 36 o gŵn).

Ar ôl tua 6 – 7 awr o hel, dod a'r helfa i'r corlannau ar y fferm a dechrau didol y defaid yn barod i'r cneifiwrs oeddyn dechrau cyrraedd. Wedi cael criw go dda o ddefaid yn barod i'r cneifiwrs, mynd i'r tŷ i gael brecwast. Cneifio drwy'r dydd tan tua pump o'r gloch, a saith neu wyth ohonom wedyn yn codi pac a mynd i'r ffarm nesaf ond un i hel y mynydd yno – gwaith ryw chwe awr. Ar dywydd poeth, yr adeg orau er lles y cŵn a'r defaid oedd hel y mynydd, naill ai cyn i'r haul godi, neu ar ôl noswylio, fell y dyma gyrraedd i lawr o'r mynydd pan oedd ar dywyllu. Wedi sicrhau fod y defaid yn ddiogel, a chael paned, mynd adre i roi bwyd i'r cŵn a gwneud rhyw fanion angenrheidiol. Erbyn darfod popeth roedd yn hanner nos a dyna falch oeddwn o gael mynd i'r gwely! Ond roedd yn rhaid codi yn fore drannoeth i fynd yn ôl i'r fferm am ddiwrnod eto o gneifio.

Roedd pythefnos o dywydd sych a braf ddim yn digwydd yn aml, ond y flwyddyn honno, doedd dim diwrnod gwlyb i ni gael hoe fach, dim ond hel mynydd a cheneifio bob dydd. Pawb yn cael ei ddiwrnod heb orfod ail drefnu, a phawb yn falch iawn o weld y fferm ddiwethaf yn y cylch cneifio.

Arfon Jones

Caersws

Powys


Amgáu’r tiroedd comin

Pan ddechreuodd y stadau mawr amgáu’r tir comin tua’r 18fed ganrif (am ragor o wybodaeth, gweler yma), bu llawer o wrthwynebiad i'r broses, a therfysgoedd mewn rhai ardaloedd. Mewn un ardal yng ngogledd Cymru, byddai'r stad yn adeiladu wal i amgáu tir yn ystod y dydd, dim ond iddi gael ei dymchwel bob nos wrth i chwarelwyr ddychwelyd adref o'r gwaith.

Cyfrif defaid yng Nghwm Anafon

Hyd at 1951, Stad y Penrhyn oedd yn berchen llawer o dir – a ffermydd –gogledd y Carneddau. Unwaith y flwyddyn, mynnai'r Stad bod ffermwyr ardal Abergwyngregyn yn anfon eu defaid i Gorlan Hen, un o’r corlannau ar dir y Stad, i’w cyfrif. Byddai unrhyw fferm â gormod o ddefaid yn wynebu dirwy (dull o atal gorbori yn ôl pob tebyg). Fodd bynnag, fel arfer rhyw wythnos cyn i hyn ddigwydd, byddai'r ffermwyr yn hel eu defaid i gorlan Buarth Newydd (yn y llun) sydd ar dir comin, i ffwrdd o gyrraedd y Stad. Trefnwyd yr helfa hon fel y gallai'r ffermwyr gyfrif y defaid eu hunain, cyn y cyfrif 'swyddogol'. Ni fyddai’n syndod bod ambell i ddafad ‘wedi mynd ar goll’ yn ystod yr wythnos ganlynol er mwyn sicrhau bod y niferoedd yn cyd-fynd â disgwyliadau Stad y Penrhyn! Daeth yr arferiad i ben pan drosglwyddwyd tir y Stad i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1951.

Atgofion am hel defaid - Wynne Roberts

(gyda diolch i Ieuan Wyn)

Wedi gaeaf hir a chaled daw tymor yr wyna.

Yr arferiad yn ardal fynyddig Llanllechid oedd, os byddai’r Pasg yn gynnar, sef diwedd Mawrth,dechrau Ebrill, yna yr hydref cynt, dal y meheryn yn ôl hyd yn ddiweddar, hyn rhag cael ŵyn bach, ahithau’n oer ac efallai eira neu eirlaw oer, a’r ŵyn yn marw ar enedigaeth!

Wedyn Pasg yn hwyr, cael ŵyn ynghynt, y dywydd wedi claearu (edrych yn nyddiadur Osmonds Oil fyddai Owen Morgan Ty’n Ffridd yn ei weud).

Rhai ŵyn wedi dod cyn dechrau Ebrill. Dyma amser prysur. Yr hen drefn oedd cael y ’sbyrniaid adrefar y 5ed o Ebrill. Eu trin, eu dosio, ac i’r mynydd. Daeth arferiad newydd, ar y rhai oedd yn gaeafu yn Sir Ddinbych. Dim porfa yn y mynydd. Bûm yn mynd â ’sbyrniaid i’r mynydd ar y 5ed, a hithau’n dod yn eira!

Y 15fed, y mamogiaid yn dod adref â’r ŵyn bach. Rhai wedi cerdded o ardal Clynnog. Yr 8fed o Fai, troi’r defaid a’r ŵyn i’r mynydd. Byddent yn trin y tir wedyn. Gwlith ar y dechrau oedd eu hail- ddanfon i fyny i’r cynefin. Os oedd wedi gwneud cafod o genllysg. Trio eu cynefino. Mae’r ŵyn yn cynefino wrth fod hefo’u mamau, ac yno yr ân nhw wedyn.

Y cyfnod prysur nesaf yw tymor y cneifio. Yr arferiad yn yr ardaloedd fyddai hel Gyrn, y Llun cyntaf ar ôl troad y rhod 21ain Mehefin. Byddai Llefn, Foel Faban,Gyrn o gwmpas Twll Pant yr Ieir, Foel Wnion i gyd wedi eu hel y penwythnos hwnnw, fel bod y mynydd yn lân i helfeydd Ro Wen, Garreg Gath aBraich ddod i lawr.

Wythnos cynt, byddai pawb yn mynd i lanhau yr olchfa. Cyn gwneud yr olchfa newydd yn Waun Bryn hefo sment, tywyrch a ddefnyddid. Wedi gollwng y dŵr i gael y mwd allan. Byddai ysliwod mawr yno – neb eu heisiau, am fod olew yn y croen. Mam yn hanner eu berwi wedi torri 4 modfedd i 5. Dôi y croen i gyd i ffwrdd, wedyn dim ond un asgwrn, a chig gwyn blasus – dim esgyrn mân.

Buarth didol ar bob mynydd, pawb i’w fuarth ei hun (wedi bod yn edrych a oedd i fyny, ar ôl efallai eira mawr y gaeaf.)

Y drefn yn Gyrn, Garreg Gath a Braich oedd munud ar ôl hanner nos – dim torri ar y Sul! – cychwyn i fyny, cerdded trwy’r nos i derfyn y plwyf, hen derfyn naturiol, sef Rhediad y Bwa.

Geirfa:

‘sbyrniaid: hesbyrniaid, sef ŵyn blwydd gwryw. Unigol: hesbwrn.

mamogiaid (moga’ ar lafar): defaid beichiog. Unigol: mamog.

golchfa: pwll mewn afon i olchi defaid, a chorlan ar y lan efo agoriad uwchben y pwll i yrru’r defaid

drwyddo i’r dŵr islaw. Codid argae (cob) o flaen llaw er mwyn gwneud y pwll yn ddyfnach.

ysliwod: llysywennod/llysywod. Unigol: llysywen (sliwan ar lafar).

Cwt Jacob, Pant Mawr, Abergwyngregyn

Ganed Jacob Roberts ym Mryn Rhedyn, Llanfairfechan, ym 1869. Bu farw ei rieni pan oedd yn ifanc, a symudodd ei frodyr a chwiorydd o gartref y teulu yng nghanol y 1880au, gyda rhai yn mynd i dde Cymru i chwilio am waith. Aeth Jacob i aros gyda John Jones a’i deulu i Fferm y Glyn, Abergwyngregyn, a bu’n gweithio ar y fferm nes ei fod yn hŷn, ac wedi hynny daeth yn fugail yn gofalu am ddefaid y fferm ar y bryniau uwchben y pentref. Priododd ag Elizabeth yn 1896 a chawsant saith o blant.

 

Un gwanwyn oer bu storm eira hwyr a chafodd Jacob ei hun yn sownd ar y bryniau gyda'i ddefaid wrth i'r eira luwchio i ddyfnder o bump neu chwe throedfedd. Claddwyd llawer o’i braidd yn fyw y noson honno, a dim ond trwy gloddio lloches yn yr eira y llwyddodd Jacob i oroesi. Fore trannoeth, gan wybod na fyddai’n goroesi noson arall, ymlwybrodd i lawr y dyffryn gyda’i gŵn gan gyfarfod ar y ffordd â chriw achub a oedd wedi cael ei anfon o’r pentref.

 

Penderfynwyd na ddylai bugeiliaid fyth eto gael eu dal yn y fath amodau, a chodwyd cwt ym Mhant Mawr. Mae'r cwt yn dal i'w weld yno heddiw. Byddai Jacob yn defnyddio'r cwt ac roedd ganddo le ar gyfer tân bach gyda thegell ar gadwyn yn crogi uwch ei ben. O flaen y cwt mae olion corlan fach, yn ogystal â lloches lle, efallai, byddai Jacob yn clymu ei ferlen.

 

Bu farw Jacob yn 79 oed ym 1949.

 

(Gyda diolch i Margaret Roberts ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd)

 

 


Helfa olaf Buarth Newydd, Abergwyngregyn 

Digwyddodd yr helfa hon yn 1983. Ers hynny, yn hytrach na defnyddio’r gorlan, caiff y defaid yn ardal Abergwyngregyn eu casglu ar y mynydd a'u hanfon i Fferm y Glyn i’w didoli. Mae’r tri llun yn dangos casglu’r defaid yn y gorlan, rhai o’r ffermwyr ac yna rhai o’r defaid yn cael eu symud i lawr i Fuarth Tan y Foel, lle bydd y tri ffermwr yn hawlio eu defaid eu hunain.

 

Gyda diolch i Dafydd Pritchard.